Support us from £3/month
We deal with almost 1000 cases a year assisting communities, groups and individuals in protecting their local spaces and paths in all parts of England and Wales. Can you help us by joining as a member?
Galwad Cymdeithas y Mannau Agored i ymgeiswyr yn
Etholiad y Senedd, 7 Mai 2026
Nid yw’r cyfle i bobl fwynhau mannau agored a llwybrau, er mwyn ymlacio, er budd i’w hiechyd a’u llesiant ac i werthfawrogi natur, erioed wedi bod yn bwysicach. Mae Cymdeithas y Mannau Agored1 eisiau i bawb yng Nghymru allu mwynhau’r manteision hyn i’r eithaf, ac rydym yn galw ar ymgeiswyr yn etholiad y Senedd i ymrwymo i’r camau gweithredu canlynol.
Mynediad cyhoeddus
Ymestyn hawliau mynediad cyhoeddus i goetiroedd, glannau dŵr, ac ar ddŵr, a thrwy hynny sicrhau mwy o fynediad a mynediad gwell i’r mannau hyn yn agos at gartrefi pobl.
Gofyniad i ddarparu pwyntiau mynediad i dir mynediad er mwyn sicrhau ei fod yn gyfreithiol hygyrch.
Hawl i heicwyr wersylla’n gyfrifol ar yr holl dir sydd wedi’i fapio ar gyfer mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mannau agored
Rhoi mandad i ddatblygwyr i ddarparu meysydd tref neu bentref cofrestredig fel rhan o ddatblygiad sy’n fwy na maint neu ddwysedd penodol, er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei ddiogelu am byth a bod gan bobl leol hawliau i ymgymryd â gweithgareddau hamdden yno.2
Dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu mannau agored diogel, o ansawdd da, sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda yn agos at gartrefi pobl.
Tir cyffredin
Terfyn cyflymder o 40 mya ar ffyrdd heb eu ffensio ar draws tiroedd comin, er mwyn diogelu da byw a’r cyhoedd.3
Hawliau tramwy cyhoeddus
Digon o gyllid i alluogi awdurdodau lleol i fodloni eu gofynion statudol i gynnal a chadw, amddiffyn a chofnodi llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus. (Mae cyflwr presennol llwybrau cyhoeddus Cymru yn druenus—ac eto maent yn briffyrdd yn ôl y gyfraith, fel unrhyw ffordd arall.)
Y cynllun ffermio cynaliadwy i ddarparu mynediad newydd a gwell; rhaid i’r rhai sy’n derbyn cyllid gadw eu llwybrau hawliau tramwy mewn cyflwr da neu bydd eu grant yn cael ei gwtogi.
Pŵer i awdurdodau priffyrdd ei gwneud yn ofynnol i gamfa, giât, neu gyfyngiad cyfreithlon arall gael ei ddisodli gan strwythurau mwy hygyrch, a phŵer i fynnu bod y strwythurau’n cael eu symud pan fydd defnydd tir yn newid.
——————————————————
Nodiadau
1 Cymdeithas y Mannau Agored yw corff cadwraeth cenedlaethol hynaf Prydain. Wedi’i sefydlu ym 1865 rydym yn ymgyrchu i greu a gwarchod tir comin, meysydd tref a phentref, mannau agored eraill, a llwybrau cyhoeddus, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, ledled Cymru a Lloegr. Ymgynghorir â ni ar bob cais am waith ar dir comin, a chyfnewid tir comin, a chan awdurdodau priffyrdd ar bob newid i’r rhwydwaith llwybrau cyhoeddus.
2 Gall maes tref neu bentref fod yn unrhyw dir sydd wedi cael ei fwynhau gan bobl leol ers 20 mlynedd, heb gael eu hatal a heb orfod gofyn am ganiatâd. Gall perchennog tir, fel datblygwr, gofrestru tir fel maes glas yn wirfoddol. Ar ôl ei gofrestru, mae’r tir wedi’i ddiogelu o dan adran 12 o Ddeddf Cau Tiroedd 1857 ac adran 29 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, ac mae gan bobl leol hawliau i ymgymryd â gweithgareddau hamdden yno.
3 Math hynafol o dir yw tir comin sy’n ddarostyngedig i, neu a fu gynt yn ddarostyngedig i, hawliau comin—i bori anifeiliaid neu gasglu coed er enghraifft—neu dir gwastraff y faenor nad yw’n ddarostyngedig i hawliau. Ceir tua hanner miliwn o erwau o dir comin yng Nghymru. Mae angen caniatâd y Gweinidog i wneud gwaith (megis ffensio) ar dir comin, a chyfnewid tir comin. Mae gan bobl yr hawl i gerdded ar bob tir comin a’r hawl i farchogaeth ar lawer ohonynt.