Cynllun gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru 2016

Cymru: Treftadaeth Gyffredin ein Comin

 Cynllun Gweithredu Cymdeithas y Mannau Agored ar gyfer Llywodraeth Cymru, 2016-2021

 

Mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r saith egwyddor yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: mae mannau agored a llwybrau yn hanfodol i economi, iechyd a lles Cymru, ei hanes, ei diwylliant a’i ffordd o fyw cyfoes. Os cedwir y llefydd hyn yn dda, bydd pobl yn ymweld â nhw er difyrrwch a mwynhad, a bydd hyn o fantais i’r economi leol. Mae llwyddiant Llwybr Arfordir Cymru yn destament i hyn.

Mae wyth y cant o diroedd Cymru yn dir comin, tiroedd sydd yn hollbwysig oherwydd eu prydferthwch naturiol, eu cynefinoedd bywyd gwyllt, eu archaeoleg a’u cyfleoedd i ddarparu adloniant anffurfiol. Nid oes unrhyw fath arall o dir yn cynnig ystod mor eang o fuddiannau cyhoeddus. Mae tir comin hefyd yn hynod o werthfawr i economi a chynaladwyedd Cymru oherwydd ei fod yn darparu tir pori (yn enwedig ar gyfer ffermwyr mynydd) ac yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr.

Cloddfa glo brig Ffos y Fran, collwyd ardal sylweddol o gomin yma ac ni fydd yn cael ei ddychwelyd am 15 mlynedd. Llun: Eddy Blanche Mae Cymdeithas y Mannau Agored yn galw ar Aelodau'r Cynulliad i ddarparu adnoddau i gynnal a gwarchod tiroedd comin, a sicrhau bod presenoldeb tir comin yn ystyriaeth cynllunio materol (gweler pwyntiau 1 & 8).

Cloddfa glo brig Ffos y Fran, collwyd ardal sylweddol o gomin yma ac ni fydd yn cael ei ddychwelyd am 15 mlynedd.
Llun: Eddy Blanche
Mae Cymdeithas y Mannau Agored yn galw ar Aelodau’r Cynulliad i ddarparu adnoddau i gynnal a gwarchod tiroedd comin, a sicrhau bod presenoldeb tir comin yn ystyriaeth cynllunio materol (gweler pwyntiau 1 & 8).

Galwn ar ymgeiswyr Etholiad Cynulliad Cymru 2016 i ymrwymo i’r pwyntiau gweithredu canlynol –

1 Darparu adnoddau i gynnal tiroedd comin, meysydd trefi a phentrefi, mannau agored, llwybrau cyhoeddus, cerdded, merlota a beicio, oll yn hanfodol i iechyd a lles Cymru a’i phobl.

2 Cydnabyddiaeth lawn a gwarchodaeth ar gyfer lonydd cefn, traciau a mannau agored dinesig, yn asedau ar gyfer trigolion trefol.

3 Gweithredu Deddf Tir Comin 2006 heb oedi, gan ddarparu ar gyfer diweddaru’r cofrestrau, creu cynghorau tir comin a chynorthwyo tirfeddianwyr a’r cyhoedd.

4 Mapiau cyhoeddus yn dangos ffermydd yng nghynllun Glastir; defnyddio Glastir i sicrhau gwell rheolaeth o dir comin, a gorfodaeth llym o amodau i gadw llwybrau cyhoeddus yn ddi-rwystr.

5 Dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu yn erbyn gwaith anghyfreithlon ar dir comin.

6 Cyfyngiad cyflymder o 20mya ar bob ffordd heb ei ffensio sydd yn croesi tir comin, er mwyn diogeli stoc, y tirwedd a mynediad cyhoeddus.

Tir glas yng Nghefn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr Mae ceisiadau cynllunio yn bygwth dinistrio llawer o'r mannau agored o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft yng Nghefn Glas, Cefn Cribwr a Gogledd Connelly. Dylai ardaloedd agored dinesig dderbyn cydnabyddiaeth lawn a gwarchodaeth fel asedau ar gyfer trigolion trefi a dinasoedd (gweler pwynt 2).

Tir glas yng Nghefn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae ceisiadau cynllunio yn bygwth dinistrio llawer o’r mannau agored o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft yng Nghefn Glas, Cefn Cribwr a Gogledd Connelly.
Dylai ardaloedd agored dinesig dderbyn cydnabyddiaeth lawn a gwarchodaeth fel asedau ar gyfer trigolion trefi a dinasoedd (gweler pwynt 2).

7 Hawl i’r cyhoedd ferlota ar bob comin.

8 Creu gofyniad bod tiroedd comin a meysydd trefi a phentrefi sydd yn ffinio â datblygiadau arfaethedig yn ystyriaeth cynllunio materol.

9 Hawl i apelio a gofyniad i ddarparu tiroedd addas eraill, cyn defnyddio mannau agored cyhoeddus at ddibenion eraill.

10 Ymrymuso cymunedau i gofrestru mannau agored lleol yn asedau cymunedol er mwyn sicrhau eu gwarchodaeth yn hirdymor.

11 Cynyddu hawl y cyhoedd i dramwyo tir – ond heb leihau statws, gwarchodaeth na chydnabyddiaeth llwybrau cyhoeddus.

12 Cofnodi pob llwybr cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn agored ac yn hawdd eu defnyddio, a chynnwys pob priffordd gyhoeddus ar y map terfynol o hawliau tramwy. Diddymu’r ddeddf a fydd, ar Ionawr 1af 2026, yn cau mapiau terfynol i unrhyw hawliau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol.

Cynllun Gweithredu Cymdeithas y Mannau Agored ar gyfer Llywodraeth Cymru 2016-2021

Receive the latest news to your inbox

Sign up to our monthly eZine to stay up to date with news, views, and more from the Open Spaces Society. Signing up takes less than two minutes.